pavilion

Caffi Y Pafiliwn

Agorodd caffi’r Pafiliwn ei ddrysau’n 2018 gydag ardal chwarae Newydd a modern yn y cefn. Mae'r ardal chwarae'n addas ar gyfer pob oedran, gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae'r parc chwarae hefyd wedi'i ffensio fewn, gall rhieni / gwarcheidwaid eistedd yn y caffi tra mae’r plant yn cael hwyl.

Mae'r Parc yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn a phramiau, rhaid mynychu gyda phob plentyn bob amser, yr peth gorau am y parc yw ei fod AM DDIM.

Ni chaniateir cŵn yn y parc chwarae, fodd bynnag, mae gennym le diogel i'w clymu am gyfnod byr gyda phowlenni dŵr croyw yn cael eu darparu.

Adnewyddwyd y Pafiliwn yn ddiweddar i greu cegin fodern gan gynyddu'r fwydlen i gynnwys pitsas, a ffefrynnau pob plentyn. Mae'r ardal ganopi newydd o flaen y Pafiliwn wedi cynyddu y man bwyta allan ac mae seddi ychwanegol yn Y Parc yn golygu fod y cyfleusterau’n le i bawb.

food menus

Lawrlwythwch y bwydlenni

 

Oriel