3gpitch

Cae 3G

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y cyfleuster hyfforddi 3G newydd ddiwedd Mehefin 2021 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ddiwedd Awst 2021.

Mae Cyngor Tref Caergybi wedi gweithio mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ynys Môn i sicrhau'r cyfleuster angenrheidiol yma ar gyfer y dref.

Bydd y cyfleuster hyfforddi 3G yn un o’i fath ar Ynys Môn gyda phad sioc ychwanegol sy'n galluogi hyfforddiant rygbi yn ogystal â phêl-droed i ddigwydd yna hefyd.

I gael gwybodaeth ar sut i logi, a phrisiau, dilynwch y ddolen sydd ynghlwm. (Atodwch y ddolen yma)

Gallwn gynnig cyfraddau gostyngedig ar gyfer archebion llogi grŵp.